Diogeli

Mae diogelu plant ac oedolion mewn perygl yn fusnes i bawb.

Nod y dudalen hon yw helpu mudiadau’r trydydd sector i gadw pawb yn ddiogel rhag niwed.

Os ydych chi’n aelod o grŵp gwirfoddol, cymunedol neu elusennol presennol, neu’n awyddus i sefydlu grŵp newydd, gall GGMT eich helpu gyda chymorth, gwybodaeth a hyfforddiant ynghylch sicrhau bod diogelu wrth wraidd popeth a wnewch.

  • Boed yn grŵp newydd sydd newydd ymsefydlu neu’n grŵp sefydledig sydd eisiau diweddaru, gallwch gwrdd ag un o’n swyddogion datblygu, neu gael gafael ar ein taflenni gwybodaeth manwl sydd wedi’u cynllunio i fynd â chi drwy bopeth o ddechrau arni, i weithio’n gynaliadwy.

I ddechrau arni gweler hy Hwb Gwybodaeth am adnoddau diogeli

Er mwyn eich arbed chi rhag chwilio drwy bolisïau, rydym wedi atodi dolen i Bolisi Diogelu Enghreifftiol

Er bod templedi yn syniad da i chi ddechrau arni, mae’n bwysig iawn bod eich polisi wedi’i deilwra i anghenion y bobl sy’n cymryd rhan. Dylech adolygu a diweddaru eich polisïau a’ch gweithdrefnau bob blwyddyn, er mwyn sicrhau eu bod yn parhau i fod yn gyfredol. Pan fo’n berthnasol, dylech ddiweddaru ar adegau eraill os oes newidiadau y dylid eu cynnwys, er enghraifft yn ein hardal ni (Cwm Taf), mae gennym y MASH erbyn hyn, sef Hwb Diogelu Amlasiantaeth, gyda rhifau cyswllt newydd a ffurflenni atgyfeirio ar gyfer gweithwyr proffesiynol.

Gallwch ddod o hyd i Bolisïau/Gweithdrefnau Diogelu a gwybodaeth am MASH ar Wefan newydd Bwrdd Diogelu Cwm Taf.

Lansiwyd gwefan newydd Bwrdd Diogelu Plant ac Oedolion Cwm Taf yn 2015. Mae’n cynnwys gwybodaeth am yr amrywiaeth o faterion diogelu sy’n effeithio ar blant ac oedolion yng Nghwm Taf ac, yn bwysig iawn, sut i adnabod yr arwyddion rhybudd a cheisio cymorth pellach.

 Gwefan Bwrdd Diogelu Cwm Taf

  • Os oes gan eich mudiad ei adeilad ei hun y byddwch yn ei logi i eraill, mae’n bwysig bod gennych gytundeb yn ei le sy’n nodi cyfrifoldebau’r ddau barti yn glir. Dylech sicrhau bod gan y llogwr o leiaf ei Yswiriant Atebolrwydd Cyhoeddus ei hun, trefniadau profi PAT (ar gyfer unrhyw offer trydanol rydych chi wedi cytuno y gallant ei ddefnyddio) a pholisïau Diogelu. Gallwch ddod o hyd i gytundeb llogi (templed) neu enghraifft yma.
  • Mae rhieni a gofalwyr yn cael eu hannog i ddysgu mwy am y grwpiau maen nhw, eu plentyn neu’r oedolion sy’n derbyn gofal yn ymwneud â nhw. Os ydych yn rhiant neu’n ofalwr, gallai’r rhestr hon fod yn ddefnyddiol i chi.

 

Third Sector Support
Trusted Charity Mark Level 1 Bilingual CMYK