Fforwm Iechyd a Lles
Sefydlwyd y Fforwm Iechyd a Lles ym mis Rhagfyr 2018. Rhwydwaith trydydd sector ydy’r fforwm, sy’n cael ei hwyluso gan GGMT ar ran ei aelodau, ac mae’n uniad rhwng dau Fforwm blaenorol sydd yn cael eu rhedeg gan GGMT: sef Iechyd a Gofal Cymdeithasol, a Phlant a Phobl Ifanc.
Mae’r Fforwm yn agored i gydweithwyr yn y trydydd sector, a’i nod yw darparu llwyfan ar gyfer hyrwyddo gwasanaethau’r trydydd sector sy’n gweithredu’n lleol/rhanbarthol. Mae’n gweithredu ymhellach i sicrhau ymgysylltiad â’r sector mewn perthynas â datblygiadau strategol ym Mwrdeistref Sirol Merthyr Tudful a hefyd, yn ardal Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg.
Dyddiadau Cyfarfodydd:
Cynhelir pob cyfarfod yn y Ganolfan Gweithredu Gwirfoddol rhwng 10am a 12pm.
Dydd Mercher 3ydd Mehefin 2020
Dydd Mercher 5ed Awst 2020
Dydd Mercher 7fed Hydref 2020
Dydd Mercher 2il Rhagfyr 2020
Gwahoddir partneriaid statudol i ymuno â’r Fforwm er budd rhannu gwybodaeth, ymgynghori a rhwydweithio.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Sharon Richards, y Rheolwr Iechyd a Lles ar 01685 353932, neu anfonwch e-bost at Sharon.richards@vamt.net