Cyfleusterau Cynadledda a Chyfarfod

Yr Ystafell Gynhadledda (Ystafell John Meredith)

Mae modd i 60 o bobl eistedd yn yr ystafell ar ffurf theatr, 48 ar ffurf cabaret, 36 ar ffurf pwyllgor bwrdd a 28 mewn siâp U. Mae'r gost o logi'r ystafell yn cynnwys te, coffi a dwr.

Mae taflunydd, standiau siartiau troi a gliniadur ar gael pan fyddwch yn llogi'r ystafell. Mae gan yr ystafell wasanaeth diwifr cyhoeddus.

Mae llogi ystafell gynadledda ar gael yn amodol ar argaeledd, am y gost ganlynol:
Ffioedd am Logi'r Ystafell Hanner Diwrnod Diwrnod Llawn
Aelodau GGMT sydd ag incwm o dan £ 10,000 y flwyddyn £ 15.00   £ 30.00
Aelodau GGMT sydd ag incwm mwy na £ 10,000 y flwyddyn £ 30.00   £ 60.00
Mudiadau Statudol £ 60.00 £ 120.00

    

Third Sector Support
Trusted Charity Mark Level 1 Bilingual CMYK