Fforwm Iechyd Meddyliol

Fforwm Iechyd Meddyliol Rhondda Cynon Taf a Merthyr Tudful

Mae'r Fforwm yn syndicet o sefydliadau iechyd meddwl y sector gwirfoddol sy'n gweithio yn Rhondda Cynon Taff a Merthyr Tudful, sy'n dwyn ynghyd y sector gwirfoddol iechyd meddwl a'r sector statudol i wella gweithio mewn partneriaeth a chyd-gynhyrchu. Mae'r fforwm Iechyd Meddwl yn croesawu unrhyw grŵp sector gwirfoddol sy'n darparu gwasanaeth i oedolion a allai fod yn profi problemau iechyd meddwl neu unrhyw sefydliad sydd â diddordeb arbennig mewn iechyd meddwl yn Rhondda Cynon Taf a Merthyr Tudful. Interlink sy'n cynnal y Fforwm ac mae'r Cydlynydd Iechyd Meddwl yn hwyluso ac yn cefnogi'r Fforwm a'i aelodau.

Nod y Fforwm yw:
• rhoi llais y dinesydd wrth galon yr hyn a wnawn
• annog a chefnogi gweithio mewn partneriaeth.
• hwyluso rhwydweithio ymhlith grwpiau Trydydd   Sector, yn  enwedig yrhai a ffurfiwyd yn ddiweddar.
• rhannu a datblygu arfer gorau, a thynnu sylw at ddatblygiadau newydd.
• darparu cyfleoedd ar gyfer ymchwil gydweithredol a thwf busnes, menter gymdeithasol a chyllid sy'n benodol i'n hardal.
• rhoi cyfle i lais lleol ar y cyd ar gyfer grwpiau trydydd sector sy'n darparu gwasanaethau iechyd meddwl neu sydd â diddordeb mewn iechyd meddwl.
• cymryd rhan mewn datblygiadau strategol lleol a chenedlaethol

Cyflawnir hyn trwy:

Cyfranogi -
• Hyrwyddo gweithio mewn partneriaeth a chyd-gynhyrchu.
• Cymryd rhan mewn ymgynghori ar gyfer gwella gwasanaethau iechyd meddwl
• Cynrychiolaeth y sector gwirfoddol mewn grwpiau cyflenwi cynllunio ar y cyd
• Cefnogi a gwella'r modd y darperir gwasanaethau iechyd meddwl lleol.


Gwybodaeth -

• Darparu gwybodaeth a chyfeirio ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl
• Rhannu arfer da ar faterion yn ymwneud ag iechyd meddwl.
• Lledaenu gwybodaeth ac e-fwletin rheolaidd Iechyd, gofal Cymdeithasol a Lles.
• Codi ymwybyddiaeth y cyhoedd trwy wefan, cyfeirlyfr gwasanaethau, datganiadau i'r wasg, hyrwyddiadau, digwyddiadau a hyfforddiant.

Hyfforddiant -
• Darparu hyfforddiant o safon i sefydliadau gwirfoddol a statudol.
• Cefnogi defnyddwyr gwasanaeth a gofalwyr i gael mynediad at hyfforddiant
• Annog a datblygu cyfranogiad defnyddwyr gwasanaeth a gofalwyr mewn ymchwil.


Datblygu

• Mapio a nodi bylchau yn narpariaeth gwasanaethau dydd
• Cyfrannu at ddatblygu gwasanaethau newydd neu well


Third Sector Support
Trusted Charity Mark Level 1 Bilingual CMYK