Rhwydwaith Gwerth Cymdeithasol Cwm Taf Morgannwg
Mae’r Rhwydwaith Gwerth Cymdeithasol yn ofyniad o dan y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant, a’r bwriad yw hwyluso cydweithio rhwng y trydydd sector a mudiadau statudol yn rhanbarthol.
Erbyn hyn, mae’r Rhwydwaith yn ffinio ag ardal Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg (Merthyr Tudful, Rhondda Cynon Taf, Pen-y-bont ar Ogwr). Cynhaliwyd y cyfarfod cyntaf ym mis Ebrill 2019.
Lansiwyd y rhwydwaith fel Cwm Taf ym mis Hydref 2017, ac fe’i hwyluswyd ar y cyd gan GGMT ac Interlink. Mae’r Adroddiad Blynyddol cyntaf yn cynnwys crynodebau o’r digwyddiadau.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch:
Sharon Richards 01685 353932 sharon.richards@vamt.net