FORWM DEMENTIA Y TRYDYDD SECTOR
Datblygodd y Fforwm Cwm Taf hwn ar gais sefydliadau trydydd sector a dderbyniodd arian grant trwy Gronfa Gofal Integredig Llywodraeth Cymru (ICF) ar gyfer Dementia yn 2019.
Ers ei gyfarfod cyntaf yn y Gwanwyn, mae'r Fforwm wedi bod yn agored i unrhyw sefydliadau trydydd sector neu grwpiau cymunedol sy'n darparu gwasanaethau neu gefnogaeth i'r rhai sy'n byw gyda dementia.
Ar hyn o bryd mae'r Fforwm yn datblygu ei drefniadau llywodraethu ac adrodd, ac fel rhan o raglen waith gydweithredol, mae'n cynllunio cynhadledd dementia trydydd sector ar gyfer Gwanwyn 2020.
Os ydych chi'n sefydliad trydydd sector, neu'n grŵp cymunedol, yn cefnogi unigolion sy'n byw gyda dementia ac yr hoffech ymuno â'r Fforwm, yna cysylltwch â Sharon.richards@vamt.net neu Amorris@interlinkrct.org.uk