Tryloywder ac Atebolrwydd
Mae gan Fwrdd GGMT ymrwymiad i’r egwyddor o weithredu’n weladwy, yn rhagweladwy ac yn ddealladwy i hyrwyddo cyfranogiad ac atebolrwydd. Un o’i werthoedd allweddol yw bod yn agored, yn onest ac yn ddidwyll.
Er mwyn cyflawni hyn, mae GGMT yn cyflawni’r camau canlynol:
Mae ◦cofnodion y Bwrdd yn cael eu cyhoeddi ar wefan GGMT.
◦ Mae Adroddiad Blynyddol a chrynodeb o Gyfrifon Blynyddol GGMT yn cael eu cyhoeddi ar wefan GGMT hefyd, ac maen nhw ar gael yn rhad ac am ddim i bawb, nid dim ond i’r Aelodau unig.
◦ Mae Polisi Tendro a Gweithdrefnau Ariannol GGMT ar gael i’r cyhoedd eu gweld ar wefan GGMT a hefyd, ei Bolisïau Gwrth-dwyll a Gwrth-lwgrwobrwyo mewnol a’i God Ymddygiad ar gyfer Ymddiriedolwyr a Staff.
◦ Bydd cyfleoedd tendro yn cael eu lledaenu’n eang, ac yn cael eu cyhoeddi ar wefan GGMT hefyd, ac yn cael eu cyhoeddi ar y cyfryngau cymdeithasol.
Mae Polisi Sylwadau a Chwynion GGMT ar gael yn rhad ac am ddim i bawb ar gais ac mae ar gael i’r cyhoedd ar y wefan.
◦Mae Llawlyfr Staff cynhwysfawr GGMT yn cynnwys adran ar chwythu’r chwiban.
◦ Mae gan GGMT Bolisi Recriwtio, Bolisi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth a Pholisi Gwrthdaro Buddiannau clir, yn ogystal â Chofrestr Buddiannau ar gyfer Ymddiriedolwyr a staff, ac mae ganddo Gynllun Iaith Gymraeg cymeradwy.
Fel Elusen Gofrestredig, mae hanes Ariannol a Chydymffurfio GGMT, ynghyd â manylion cyfrifon blynyddol, ymddiriedolwyr, a throsolwg cryno y mudiad ar gael ar wefan y Comisiwn Elusennau
Cynllun Strategol
- Cynllun Strategol GGMT 2022 - 2025
- Cynllun Strategol GGMT 2017 – 2020 cliciwch yma
- Cynllun Gweithredu 2019-2020