Yr Ystafell Gynhadledda (Ystafell John Meredith)
Mae modd i 60 o bobl eistedd yn yr ystafell ar ffurf theatr, 48 ar ffurf cabaret, 36 ar ffurf pwyllgor bwrdd a 28 mewn siâp U. Mae'r gost o logi'r ystafell yn cynnwys te, coffi a dwr.
Mae taflunydd, standiau siartiau troi a gliniadur ar gael pan fyddwch yn llogi'r ystafell. Mae gan yr ystafell wasanaeth diwifr cyhoeddus.
Mae llogi ystafell gynadledda ar gael yn amodol ar argaeledd, am y gost ganlynol:
| Ffioedd am Logi'r Ystafell | Hanner Diwrnod | Diwrnod Llawn | 
|---|---|---|
| Aelodau GGMT sydd ag incwm o dan £ 10,000 y flwyddyn | £ 15.00 | £ 30.00 | 
| Aelodau GGMT sydd ag incwm mwy na £ 10,000 y flwyddyn | £ 30.00 | £ 60.00 | 
| Mudiadau Statudol | £ 60.00 | £ 120.00 | 



