Gweithredu Gwirfoddol Merthyr Tudful (GGMT) yw’r Cyngor Gwirfoddol Sirol (CGS) ar gyfer Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful, ac mae wedi bodoli ers 1997. Mae gan GGMT aelodaeth o dros 250 o fudiadau’r trydydd sector, ac mae ganddo gysylltiad â thros 500 ohonynt
Mae GGMT yn rhan o Cefnogi Trydydd Sector Cymru (CTSC), sef rhwydwaith o fudiadau cefnogi ar gyfer y trydydd sector. Ein nod cyffredin yw galluogi’r trydydd sector a gwirfoddolwyr ledled Cymru i gyfrannu’n llawn at lesiant unigolion a’r gymuned, nawr ac yn y dyfodol.
Mae gennym bedair colofn o weithgarwch sy’n ffurfio ein cynnig cyffredinol, sef:
- Gwirfoddoli
- Llywodraethu da
- Cyllid cynaliadwy
- Ymgysylltu a dylanwadu
Mae ein gwaith yn canolbwyntio’n fras ar y themâu cyffredin canlynol:
- Gwybodaeth a chyngor
- Dysgu a datblygu
- Rhwydweithio a chyfathrebu
- Llunio, dylanwadu ac adeiladu cyfalaf cymdeithasol a chydnerthedd y sector
- Codi proffil y sector
Mae cyllid craidd yn cael ei ddarparu i GGMT ar sail ranbarthol yng Nghwm Taf Morgannwg gan Lywodraeth Cymru, ac mae hynny’n cael ei ategu gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful a Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg. Mae GGMT yn cael arian sylweddol gan y Gronfa Gofal integredig (ICF) hefyd, drwy Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, ac mae’n gweinyddu Cynllun Grantiau Gallu Cymunedol
Mae GGMT yn cyflogi tîm bach o staff, ac mae ganddo fwrdd o 11 o Ymddiriedolwyr, sydd yn cael eu hethol yn flynyddol o blith ei aelodau.
Mae GGMT yn Gwmni Cyfyngedig drwy Warant ac yn Elusen Gofrestredig, sydd wedi’i leoli yn y Ganolfan Gweithredu Gwirfoddol yn y dref. Mae’r Ganolfan yn cael ei rheoli gan GGMT, ac mae’n darparu gofod swyddfa i GGMT a nifer o fudiadau gwirfoddol eraill, a man cyfarfod mawr.
Datganiad Cenhadaeth
Cynyddu maint, ansawdd ac effaith gweithredu gwirfoddol ym Mwrdeistref Sirol Merthyr Tudful drwy gefnogi, cynrychioli a chynorthwyo mudiadau’r Trydydd Sector a gwirfoddoli. Sicrhau newid drwy wella lles unigolion, mudiadau a chymunedau.
Gweledigaeth
Bod yn ganolfan ragoriaeth ym Merthyr Tudful ar gyfer darparu gwasanaethau i fudiadau ac unigolion sy’n ymwneud â’r trydydd sector a gwirfoddoli.
Creu cymuned iach drwy helpu i ddatblygu mudiadau i gwrdd â’u hanghenion, mwyhau cyfleoedd gwirfoddoli a rhannu ein cenhadaeth gyda’r holl randdeiliaid.
Gwerthoedd
Rydym yn credu yn, ac yn hyrwyddo:
- Bod yn agored, gonestrwydd, tryloywder
- Proffesiynoldeb ac uniondeb
- Cydweithio
- Llywodraethu gwych
- Cynhwysiant ac amrywiaeth
- Newid cynaliadwy sy’n gwneud gwahaniaeth positif
Nodau Strategol
O’n Gweledigaeth a’n Datganiad Cenhadaeth, rydym wedi nodi pum nod strategol allweddol:
- Galluogi mudiadau’r trydydd sector i ddarparu gwasanaethau, gwella ym mhob agwedd ar eu gwaith a dod yn gydnerth
- Cryfhau cynrychiolaeth a dylanwad mudiadau’r trydydd sector
- Gwella gwirfoddoli a lles drwy gyfranogi a gweithredu yn y gymuned
- Gwella effeithiolrwydd GGMT fel mudiad enghreifftiol yn y trydydd sector
- Cryfhau cynaliadwyedd GGMT
Bwrdd Gweithredu Gwirfoddol Merthyr Tudful sy’n gyfrifol yn y pen draw am lywodraethu, rheoli a gweinyddu GGMT. Aelodau’r Bwrdd yw ymddiriedolwyr yr elusen a chyfarwyddwyr y cwmni. Maen nhw’n cael eu hethol o blith aelodau GGMT yn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol.
Bwrdd Gweithredu Gwirfoddol Merthyr Tudful sy’n gyfrifol yn y pen draw am lywodraethu, rheoli a gweinyddu GGMT. Aelodau’r Bwrdd yw ymddiriedolwyr yr elusen a chyfarwyddwyr y cwmni. Maen nhw’n cael eu hethol o blith aelodau GGMT yn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol.