Amdanom ni

Gweithredu Gwirfoddol Merthyr Tudful (GGMT) yw’r Cyngor Gwirfoddol Sirol (CGS) ar gyfer Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful, ac mae wedi bodoli ers 1997. Mae gan GGMT aelodaeth o dros 250 o fudiadau’r trydydd sector, ac mae ganddo gysylltiad â thros 500 ohonynt

Mae GGMT yn rhan o Cefnogi Trydydd Sector Cymru (CTSC), sef rhwydwaith o fudiadau cefnogi ar gyfer y trydydd sector. Ein nod cyffredin yw galluogi’r trydydd sector a gwirfoddolwyr ledled Cymru i gyfrannu’n llawn at lesiant unigolion a’r gymuned, nawr ac yn y dyfodol.

Mae gennym bedair colofn o weithgarwch sy’n ffurfio ein cynnig cyffredinol, sef:

  • Gwirfoddoli
  • Llywodraethu da
  • Cyllid cynaliadwy
  • Ymgysylltu a dylanwadu

Mae ein gwaith yn canolbwyntio’n fras ar y themâu cyffredin canlynol:

  • Gwybodaeth a chyngor
  • Dysgu a datblygu
  • Rhwydweithio a chyfathrebu
  • Llunio, dylanwadu ac adeiladu cyfalaf cymdeithasol a chydnerthedd y sector
  • Codi proffil y sector

Mae cyllid craidd yn cael ei ddarparu i GGMT ar sail ranbarthol yng Nghwm Taf Morgannwg gan Lywodraeth Cymru, ac mae hynny’n cael ei ategu gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful a Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg. Mae GGMT yn cael arian sylweddol gan y Gronfa Gofal integredig (ICF) hefyd, drwy Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, ac mae’n gweinyddu Cynllun Grantiau Gallu Cymunedol

Mae GGMT yn cyflogi tîm bach o staff, ac mae ganddo fwrdd o 11 o Ymddiriedolwyr, sydd yn cael eu hethol yn flynyddol o blith ei aelodau.

Mae GGMT yn Gwmni Cyfyngedig drwy Warant ac yn Elusen Gofrestredig, sydd wedi’i leoli yn y Ganolfan Gweithredu Gwirfoddol yn y dref. Mae’r Ganolfan yn cael ei rheoli gan GGMT, ac mae’n darparu gofod swyddfa i GGMT a nifer o fudiadau gwirfoddol eraill, a man cyfarfod mawr.

Datganiad Cenhadaeth

Cynyddu maint, ansawdd ac effaith gweithredu gwirfoddol ym Mwrdeistref Sirol Merthyr Tudful drwy gefnogi, cynrychioli a chynorthwyo mudiadau’r Trydydd Sector a gwirfoddoli. Sicrhau newid drwy wella lles unigolion, mudiadau a chymunedau.

Gweledigaeth

Bod yn ganolfan ragoriaeth ym Merthyr Tudful ar gyfer darparu gwasanaethau i fudiadau ac unigolion sy’n ymwneud â’r trydydd sector a gwirfoddoli.

Creu cymuned iach drwy helpu i ddatblygu mudiadau i gwrdd â’u hanghenion, mwyhau cyfleoedd gwirfoddoli a rhannu ein cenhadaeth gyda’r holl randdeiliaid.

 

Gwerthoedd

Rydym yn credu yn, ac yn hyrwyddo:

  • Bod yn agored, gonestrwydd, tryloywder
  • Proffesiynoldeb ac uniondeb
  • Cydweithio
  • Llywodraethu gwych
  • Cynhwysiant ac amrywiaeth
  • Newid cynaliadwy sy’n gwneud gwahaniaeth positif

Nodau Strategol

O’n Gweledigaeth a’n Datganiad Cenhadaeth, rydym wedi nodi pum nod strategol allweddol:

  • Galluogi mudiadau’r trydydd sector i ddarparu gwasanaethau, gwella ym mhob agwedd ar eu gwaith a dod yn gydnerth
  • Cryfhau cynrychiolaeth a dylanwad mudiadau’r trydydd sector
  • Gwella gwirfoddoli a lles drwy gyfranogi a gweithredu yn y gymuned
  • Gwella effeithiolrwydd GGMT fel mudiad enghreifftiol yn y trydydd sector
  • Cryfhau cynaliadwyedd GGMT

Bwrdd Gweithredu Gwirfoddol Merthyr Tudful sy’n gyfrifol yn y pen draw am lywodraethu, rheoli a gweinyddu GGMT. Aelodau’r Bwrdd yw ymddiriedolwyr yr elusen a chyfarwyddwyr y cwmni. Maen nhw’n cael eu hethol o blith aelodau GGMT yn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol.

Bwrdd Gweithredu Gwirfoddol Merthyr Tudful sy’n gyfrifol yn y pen draw am lywodraethu, rheoli a gweinyddu GGMT. Aelodau’r Bwrdd yw ymddiriedolwyr yr elusen a chyfarwyddwyr y cwmni. Maen nhw’n cael eu hethol o blith aelodau GGMT yn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol.

Third Sector Support
Trusted Charity Mark Level 1 Bilingual CMYK