Gwasanaethau

Os ydych chi’n aelod o grŵp gwirfoddol, cymunedol neu elusennol presennol, neu’n awyddus i sefydlu grŵp newydd, ydych chi’n gwybod y gall GGMT roi gwybodaeth a chymorth i chi? Mae holl wasanaethau datblygu Gweithredu Gwirfoddol Merthyr Tudful am ddim i aelodau.

Fel rhan o’r gwasanaeth, gall GGMT eich helpu mewn sawl ffordd, sy’n cynnwys meysydd fel datblygu cyfansoddiad, cofrestru fel elusen neu gwmni, newid statws cyfreithiol eich mudiad, datblygu polisïau, gweithdrefnau ariannol, cydraddoldeb ac amrywiaeth, diogelu, cyllid a hyfforddiant.

Y Gefnogaeth Sydd Ar Gael i Aelodau

  • Codi arian
  • Chwilio am gyllid perthnasol
  • Helpu i wneud ceisiadau am gyllid
  • Monitro a gwerthuso
  • Datblygu strategaethau cyllid
  • Cynllunio busnes
  • Hyfforddiant
  • Partneriaethau
  • Rhwydweithiau
Third Sector Support
Trusted Charity Mark Level 1 Bilingual CMYK