Gwirfoddoli

Mae staff Canolfannau Gwirfoddoli yng Nghymru wedi dod ynghyd ar gyfer #WythnosGwirfoddolwyr i recordio neges o ddiolch arbennig i bob gwirfoddolwr am eu cyfraniad enfawr ar draws y wlad.

Gwyliwch y fideo

Amser i Ddweud Diolch

 

Beth yw gwirfoddoli?

Mae gwirfoddoli yn golygu rhoi eich amser yn rhad ac am ddim ac o ddewis i gefnogi rhywun na sydd yn aelod teulu. Mae yna lawer o bethau y gallwch ddewis eu gwneud i gefnogi eraill yn y gymuned.

Pam gwirfoddoli?

Mae pobl yn gwirfoddoli am nifer o resymau:

  • Gallwch roi rhywbeth yn ol i’ch cymuned lleol
  • Gallwch fagu hyder a chwrdd a ffrindiau newydd
  • Gallwch ddysgu sgiliau newydd i newid gyrfa neu fynd yn ol i’r gweithle
  • Gallwch gael llawer o sbri yn aml iawn!

Mae’n bosib i chi i gael mynediad at lawer o hyfforddiant fel gwirfoddolwr, ni ddylai effeithio ar eich budd-daliadau a gallwch dderbyn treuliau yn aml am unrhyw gostau Mae hefyd yn edrych yn dda ar eich CV – mae nifer o gyflogwyr yn edrych yn ffafriol iawn ar brofiad gwirfoddoli.

Beth allaf ei wneud?

Mae gwirfoddoli’n hyblyg – chi sydd yn penderfynu faint yr ydych am ei wneud a phryd, gan gymryd i ystyriaeth yr hol ymrwymiadau eraill sydd gennych yn eich bywyd bob dydd.

Gallwch gymryd rhan mewn nifer o weithgareddau gwahanol megis chwaraeol, bod yn gyfaill, gwaith gweinyddol, neu fod yn help a chymorth ymarferol i blant, pobl ifanc neu hyn.

5 Peth i Wneud Er Mwyn Cychwyn

Bydd y Ganolfan Wirfoddoli yn medru dweud wrthych pa waith gwirfoddol sydd ar gael yn lleol a byddant yn medru eich cynorthwyo i gysylltu â mudiadau lleol. Byddwn hefyd yn medru ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych am wirfoddoli.

1.Meddyliwch am yr hyn yr ydych yn dymuno ei gael gan wirfoddoli - sgiliau newydd, cyfle i gyfrannu i achos da, cyfle i gwrdd â phobl newydd.

2.Beth sydd gennych i'w gynnig? - brwdfrydedd, sgiliau gwaith, sgiliau bywyd.

3.Cofiwch fod hawl gan bawb i wirfoddoli - beth bynnag yw eich sgiliau neu brofiad, byddwn yn eich cynorthwyo i ganfod lle da i wirfoddoli.

4.Penderfynwch faint o amser yr ydych am gyfrannu pob wythnos/mis.

5.Rhowch gynnig iddo! Y peth anoddaf am wirfoddoli yw gwneud y cam cyntaf.

Beth Ydych am Wneud Nesaf?

Mae hynny'n dibynnu arnoch chi! Mae yna ystod o gyfleoedd ar gael o fewn mudiadau gwahanol, i bobl dros 14 oed.   Os hoffech ganfod mwy am wirfoddoli, cysylltwch os gwelwch yn dda gyda'n Swyddog Gwirfoddoli drwy e-bost neu drwy ffonio (01685) 353900.  Rydym yn disgwyl ymlaen at glywed wrthych.

Third Sector Support
Trusted Charity Mark Level 1 Bilingual CMYK