Tryloywder ac Atebolrwydd

Tryloywder ac Atebolrwydd

Mae gan Fwrdd GGMT ymrwymiad i’r egwyddor o weithredu’n weladwy, yn rhagweladwy ac yn ddealladwy i hyrwyddo cyfranogiad ac atebolrwydd. Un o’i werthoedd allweddol yw bod yn agored, yn onest ac yn ddidwyll.

Er mwyn cyflawni hyn, mae GGMT yn cyflawni’r camau canlynol:

Mae ◦cofnodion y Bwrdd yn cael eu cyhoeddi ar wefan GGMT.

◦ Mae Adroddiad Blynyddol a chrynodeb o Gyfrifon Blynyddol GGMT yn cael eu cyhoeddi ar wefan GGMT hefyd, ac maen nhw ar gael yn rhad ac am ddim i bawb, nid dim ond i’r Aelodau unig.

◦ Mae Polisi Tendro a Gweithdrefnau Ariannol GGMT ar gael i’r cyhoedd eu gweld ar wefan GGMT a hefyd, ei Bolisïau Gwrth-dwyll  a Gwrth-lwgrwobrwyo mewnol a’i God Ymddygiad ar gyfer Ymddiriedolwyr a Staff.

◦ Bydd cyfleoedd tendro yn cael eu lledaenu’n eang, ac yn cael eu cyhoeddi ar wefan GGMT hefyd, ac yn cael eu cyhoeddi ar y cyfryngau cymdeithasol.

Mae Polisi Sylwadau a Chwynion GGMT ar gael yn rhad ac am ddim i bawb ar gais ac mae ar gael i’r cyhoedd ar y wefan.

◦Mae Llawlyfr Staff cynhwysfawr GGMT yn cynnwys adran ar chwythu’r chwiban.

◦ Mae gan GGMT Bolisi Recriwtio, Bolisi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth a Pholisi Gwrthdaro Buddiannau clir, yn ogystal â Chofrestr Buddiannau ar gyfer Ymddiriedolwyr a staff, ac mae ganddo Gynllun Iaith Gymraeg cymeradwy.

Fel Elusen Gofrestredig, mae hanes Ariannol a Chydymffurfio GGMT, ynghyd â manylion cyfrifon blynyddol, ymddiriedolwyr, a throsolwg cryno y mudiad ar gael ar wefan y Comisiwn Elusennau

 

Cynllun Strategol

Polisïau Eraill

Third Sector Support
Trusted Charity Mark Level 1 Bilingual CMYK