Fforwm Iechyd a Lles

Fforwm Iechyd a Lles

Sefydlwyd y Fforwm Iechyd a Lles ym mis Rhagfyr 2018. Rhwydwaith trydydd sector ydy’r fforwm, sy’n cael ei hwyluso gan GGMT ar ran ei aelodau, ac mae’n uniad rhwng dau Fforwm blaenorol sydd yn cael eu rhedeg gan GGMT: sef Iechyd a Gofal Cymdeithasol, a Phlant a Phobl Ifanc.

Mae’r Fforwm yn agored i gydweithwyr yn y trydydd sector, a’i nod yw darparu llwyfan ar gyfer hyrwyddo gwasanaethau’r trydydd sector sy’n gweithredu’n lleol/rhanbarthol. Mae’n gweithredu ymhellach i sicrhau ymgysylltiad â’r sector mewn perthynas â datblygiadau strategol ym Mwrdeistref Sirol Merthyr Tudful a hefyd, yn ardal Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg.

 

Gwahoddir partneriaid statudol i ymuno â’r Fforwm er budd rhannu gwybodaeth, ymgynghori a rhwydweithio.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Claire Williams  y Rheolwr Iechyd a Lles ar 01685 353984  Mob: 07946 495306, neu anfonwch e-bost at claire.williams@vamt.net

Third Sector Support
Trusted Charity Mark Level 1 Bilingual CMYK