Cydlynwyr Cymunedol

Cydlynwyr Cymunedol

Mae GGMT yn gyflogwr  Cydlynydd Cymunedol sydd rhan o dîm sy’n gweithredu ar draws Merthyr Tudful a Rhondda Cynon Taf.

Mae’r Cydlynwyr yn helpu unigolion 50+ a’u gofalwyr i gael mynediad at wasanaethau a gweithgareddau a fydd yn eu helpu i gynnal eu hannibyniaeth a gwella eu hiechyd a’u lles.

Gall unrhywun gael eu cyfeirio at y tîm, ac mae’r math o gymorth y gallant ei gael yn cynnwys cyfeillio; gwiriadau budd-daliadau; man addasiadau i gartrefi; siopa/glanhau/garddio yn ogystal â chymorth sy’n benodol i gyflyrau, fel dementia.

Mae gan y tîm gysylltiadau cryf ag Awdurdodau Lleol, ac mae wedi’i integreiddio yn y Tîm Gwasanaethau Cymorth Cychwynnol (Parc Iechyd Keir Hardie) a Thîm Mynediad Unigol yn RhCT (Tŷ Elai). Mae hyn yn eu galluogi i gynnig cyngor a gwybodaeth uniongyrchol mewn perthynas â gwasanaethau ataliol sydd ar gael yn yr ardaloedd lleol.

Mae’r Cydlynwyr yn cynhyrchu bwletin gwybodaeth misol yn hyrwyddo gweithgareddau sy’n digwydd yn y mis i ddod. Os hoffech dderbyn copi yn uniongyrchol, neu os ydych yn grŵp neu’n fudiad cymunedol a hoffai hyrwyddo eich gwasanaethau drwy’r bwletin, yna cysylltwch ag unrhyw un o’r Cydlynwyr Cymunedol yn eich ardal chi.

Lesley Hodgson yw'r Cydlynwr Cymunedol dros Merthyr Tudful.  Cysylltwch a Lesley ar  07580 866547 neu Lesley.hodgson@vamt.net.

Dilynwch y tîm ar Twitter: @CwmTafCC

 

 

Third Sector Support
Trusted Charity Mark Level 1 Bilingual CMYK