Cyllid Cynaliadwy
Mae cyllid yn hanfodol i unrhyw grŵp gwirfoddol – mae GGMT yn cynnig gwasanaeth cyngor cynhwysfawr ar gyllid i’w aelodau. Gall aelodau elwa ar wybodaeth, cymorth a chyngor ar amrywiaeth eang o faterion cyllid; unrhyw beth o ffurflenni cais, monitro a gwerthuso i hyfforddiant perthnasol.
Gall GGMT helpu eich mudiad gyda strategaethau cyllid a llenwi ffurflenni cais, i sicrhau bod y Sector Gwirfoddol yn parhau ym Merthyr Tudful.
Bydd y ddolen ganlynol yn mynd â chi i’r Hyb Gwybodaeth sy’n adnodd defnyddiol wrth chwilio am gyllid ar gyfer eich sefydliad.
Cronfa Integredig Ranbarthol Cynllun Grant Dementia 2024-26
Ydych chi'n fudiad trydydd sector neu'n grŵp cymunedol? Ydych chi'n cefnogi pobl â dementia neu a hoffech chi wneud hynny?
Mae cynllun grant capasiti cymunedol newydd gyda 2 flynedd o gyllid ar gael.