Llywodraethu da

Mae llywodraethu da gan ymddiriedolwyr, cyfarwyddwyr a phwyllgorau yn ymwneud ag adolygu sut rydych chi’n gweithredu, ac adnabod materion posibl cyn iddynt ddatblygu.

Gallwn eich helpu i edrych ar eich strwythur a’ch arferion sefydliadol, fel eich bod yn addas at y diben ac yn barod i wynebu unrhyw heriau a all godi yn y dyfodol. Gallwn eich helpu i nodi problemau posibl yn gynnar, a gwneud yn siŵr bod gennych chi’r wybodaeth i’w hatal rhag datblygu.

Os oes angen cymorth ar eich mudiad neu eich grŵp, gallwn helpu gyda’r cyfan neu rhywfaint o’r canlynol:

  • Llywodraethu
  • Cyllid
  • Strwythur
  • Staffio
  • Cynllunio Busnes
  • Polisïau a gweithdrefnau

… a llawer mwy

Rhywfaint o Adnoddau ar gyfer Llywodraethu Da

Y Marc Ansawdd Elusen Ddibynadwy

Y Marc Ansawdd Elusen Ddibynadwy (sydd yn cael ei adnabod fel PQASSO) yw’r dyfarniad a asesir yn allanol ar gyfer defnyddwyr Elusen Ddibynadwy sy’n dangos eu bod wedi cyrraedd safonau’r Elusen Ddibynadwy. Mae’r wobr hon a gydnabyddir yn genedlaethol yn cynnig dilysiad allanol o ansawdd a hygrededd mudiad i ddefnyddwyr a chyllidwyr/comisiynwyr.

Am ragor o wybodaeth, ewch i: Marc Elusen Ddibynadwy

Cod Llywodraethu i Elusennau

Mae llywodraethu da mewn elusennau yn hanfodol i’w llwyddiant.
Mae elusen yn y sefyllfa orau i gyflawni ei huchelgeisiau a’i hamcanion os oes ganddi drefniadau llywodraethu effeithiol a’r strwythurau arweinyddiaeth cywir. Bydd Ymddiriedolwyr medrus a galluog yn helpu elusen i ddenu adnoddau a’u defnyddio yn y ffordd orau.  Mae llywodraethu da yn galluogi ac yn cynorthwyo elusen i gydymffurfio â deddfwriaeth a rheoliadau perthnasol.  Mae’n hyrwyddo agweddau a diwylliant hefyd, lle mae popeth yn gweithio tuag at gyflawni gweledigaeth yr elusen.

Nod y Cod hwn yw helpu elusennau a’u hymddiriedolwyr i ddatblygu’r safonau llywodraethu uchel hyn. Fel sector, mae arnom ddyled i’n buddiolwyr, ein rhanddeilaid a’n cefnogwyr i ddangos arweinyddiaeth a llywodraethu rhagorol.  Offeryn ymarferol yw’r Cod hwn i helpu Ymddiriedolwyr I gyflawni hyn.  Am ragor o wybodaeth, dysgwch am y Cod.

 

Third Sector Support
Trusted Charity Mark Level 1 Bilingual CMYK